Song of Solomon 8

Y ferch: 1O na fyddet ti fel brawd bach i mi,
wedi ei fagu ar fron fy mam;
byddwn yn dy gusanu di'n agored,
a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i.
2Af â ti i dŷ fy mam,
yr un ddysgodd bopeth i mi.
Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau;
gwin melys fy mhomgranadau.
3Mae ei law chwith dan fy mhen,
a'i law dde yn fy anwesu.
4Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch:
Pam trïo cyffroi cariad rhywiol
cyn ei fod yn barod?

Cerdd i gloi

Merched Jerwsalem:
5Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch
yn pwyso ar fraich ei chariad?
Y ferch: Cynhyrfais di dan y goeden afalau.
Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu,
a dyna ble gest ti dy eni.
6Gosod fi fel sêl ar dy galon,
fel sêl-fodrwy ar dy law.
Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth,
ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd.
Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt,
fel tân sy'n llosgi'n wenfflam.
7All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad;
all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd.
Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano,
byddai'n ddim byd ond testun sbort.
Brodyr y ferch:
8Mae gynnon ni chwaer fach
a'i bronnau heb dyfu.
Beth wnawn ni i'w helpu
pan gaiff ei haddo i'w phriodi?
9Os ydy hi'n saff fel wal,
gallwn ei haddurno gyda thyrau arian!
Os ydy hi fel drws,
gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd!
Y ferch:
10Roeddwn i fel wal,
ond bellach mae fy mronnau fel tyrau,
felly dw i'n gwbl aeddfed yn ei olwg e.
Y cariad:
11Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon,
a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid.
Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
12Mae'r mil o ddarnau arian i ti Solomon,
a dau gant i'r rhai sy'n gofalu am ei ffrwyth;
ond mae fy ngwinllan i i mi'n unig.
13Ti sy'n aros yn y gerddi,
mae yna ffrindiau'n gwrando am dy lais;
ond gad i mi fod yr un sy'n ei glywed.
Y ferch:
14Brysia, fy nghariad! –
bydd fel gasél neu garw ifanc
ar fynyddoedd y perlysiau.
Copyright information for CYM